Mae hwn yn gyfnod deinamig i ni yng Nghanolfan Ganser Felindre. Mae gennym raglen uchelgeisiol o wella gwasanaethau; rydym yn datblygu ein Canolfan Ganser newydd ac yn cyflwyno prosiectau newydd a chyffrous ar draws y rhanbarth – gan gynnwys ein Canolfan Ategol Radiotherapi yn y Fenni, ein Rhaglen Celfyddydau addawol, y Manteision Cymunedol y bydd datblygiad y Ganolfan Ganser newydd yn eu darparu a'n gwaith Presgripsiynu Cymdeithasol Gwyrdd.

 

Rydyn ni am roi'r cyfle i chi gymryd rhan lawn ym mhob agwedd ar y gwaith cyffrous hwn a byddwn ni’n cynnig nifer o ffyrdd i chi gymryd rhan, gan gynnwys sefydlu Paneli Cleifion/Gofalwyr, Panel Cymunedol, datblygu rolau gwirfoddoli, sefydlu Grŵp Ymgysylltu â Chleifion/Gofalwyr a llawer mwy.

 

Fel aelod o'r gymuned hon, bydd cyfle i chi ymuno â ni ar gyfer digwyddiadau rheolaidd ar-lein ac wyneb yn wyneb ar draws rhanbarth Felindre i roi eich barn ar ein gwasanaethau parhaus a’r rhai sydd ar y gweill, yn ogystal â'n cynlluniau at y dyfodol.