Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
GIG 111 Cymru - Arolwg Profiad Cleifion Ffôn
Cwblhewch yr arolwg hwn os oes gennych brofiad o ffonio 111 am gyngor neu wybodaeth iechyd. Gallai hyn fod wedi bod i chi'ch hun neu i ffrind neu aelod o'r teulu. Mae eich adborth yn bwysig i ni a bydd yn ein helpu i ddysgu a gwella.
Gallwch ddefnyddio'r arolwg hwn i ddweud wrthym am eich galwad ffôn i 111, sut y gwnaethom ymateb ac am unrhyw alwadau yn ôl y gallech fod wedi'u derbyn gan ein Cynghorwyr Clinigol.
Nid oes angen i ni wybod eich manylion personol a'ch cynghori i beidio â darparu manylion personol a allai eich adnabod, ond rydym wedi gofyn rhai cwestiynau cyffredinol ar y diwedd ynghylch pwy ydych chi. Mae hyn er mwyn i ni allu sicrhau ein bod yn gofyn i bob grŵp o bobl am eu profiad. Bydd unrhyw ymatebion yn cael eu cadw'n gyfrinachol a dim ond canlyniadau arolwg dienw fydd yn cael eu rhannu neu eu datgelu. Gweler yr hysbysiad preifatrwydd am ragor o wybodaeth.
Os hoffech drafod yr arolwg hwn neu ofyn unrhyw gwestiynau amdano, cysylltwch â'r tîm Profiad Cleifion a Chynnwys y Gymuned ar 0300 123 9207 neu e-bostiwch [email protected]
Mae’r Arolwg hwn yn cynnwys 30 Cwestiwn