Ymddiriedolaeth GIG Gwasanaethau Ambiwlans Cymru
Gwasanaeth Ambiwlans Cymru - Arolwg Profiad Cleifion
Byddem yn ddiolchgar pe gallech lenwi’r holiadur hwn os oes gennych brofiad o ffonio 999 am ambiwlans mewn sefyllfa o argyfwng. Gallai hyn fod wedi bod i chi'ch hun neu i ffrind neu aelod o'r teulu. Mae'ch adborth yn bwysig i ni a bydd yn ein helpu i ddysgu a gwella.
Gallwch ddefnyddio'r arolwg hwn i ddweud wrthym am eich galwad ffôn 999, sut gwnaethom ymateb ac am unrhyw alwadau yn ôl a allech fod wedi'u derbyn gan ein Cynghorwyr Clinigol.
Nid oes angen inni wybod eich manylion personol a chynghorir chi i beidio â darparu manylion personol a fyddai’n golygu eich adnabod chi. Rydym er hynny’n gofyn rhai cwestiynau cyffredinol ar y diwedd ynghylch pwy ydych chi. Diben hynny yw inni allu sicrhau ein bod yn gofyn i bob grŵp o bobl am eu profiad. Bydd yr holl atebion yn cael eu cadw'n gyfrinachol a dim ond canlyniadau dienw o’r arolwg fydd yn cael eu rhannu neu eu datgelu. Gweler yr hysbysiad preifatrwydd i gael mwy o wybodaeth.
Os hoffech drafod yr arolwg hwn neu ofyn unrhyw gwestiynau amdano, cysylltwch â'r tîm Profiad Cleifion a Chynnwys y Gymuned ar 0300 123 9207 neu e-bostiwch [email protected]
Mae’r Arolwg hwn yn cynnwys 34 Cwestiwn