Mae'r profiad a gewch wrth ddefnyddio ein Cynorthwyydd Rhithiol, AlBot, yn bwysig i ni. Er mwyn ein helpu i wella'r gwasanaeth hwn yn barhaus, byddem yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r arolygon hwn fel y gallwn ei ddeall yn well.
Nodwch fod yr arolwg hwn yn ymwneud â'r Cynorthwyydd Rhithiol, AlBot yn unig, ac nid â unrhyw wasanaethau eraill y GIG.
Nid oes angen gwybod eich manylion personol, ond rydym wedi gofyn rhai cwestiynau cyffredinol ar y diwedd am bwy ydych chi. Mae hyn er mwyn i ni sicrhau ein bod yn gofyn i'r holl grwpiau o bobl am eu profiad. Gweler ein hysbysiad preifatrwydd am ragor o wybodaeth.
Bydd unrhyw ymatebion yn cael eu cadw'n gyfrinachol a dim ond canlyniadau arolwg dienw a fydd yn cael eu rhannu neu eu datgelu.
Os hoffech drafod yr arolwg hwn neu ofyn unrhyw gwestiynau, cysylltwch â'r Tîm Profiad Cleifion a Chynnwys y Gymuned ar 0300 123 9207 neu e-bostiwch [email protected]