Iechyd Cyhoeddus Cymru

Adnoddau iechyd i bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru: Gofalwyr

Iaith
select

Mae Iechyd Cyhoeddus Cymru wedi cynllunio’r arolwg 5 munud byr yma er mwyn i chi allu rhannu eich barn a’n helpu ni i sicrhau gwell dealltwriaeth o’r materion iechyd sy’n effeithio ar bobl ag anabledd dysgu yng Nghymru.

Rydyn ni’n gofyn am farn gofalwyr (di-dâl, cyflogedig ac aelodau o'r teulu) pobl ag anabledd dysgu. Bydd eich barn yn helpu i nodi'r wybodaeth sydd ei hangen ar bobl ag anabledd dysgu i wneud penderfyniadau gwybodus am frechu. Yn ogystal â’r arolwg yma, rydym yn gweithio gydag Anabledd Dysgu Cymru a fydd yn trefnu cyfweliadau gyda gofalwyr, ac arolwg a grwpiau ffocws ar gyfer pobl ag anabledd dysgu.

Os hoffech chi neu rywun rydych yn gofalu amdano gymryd rhan, e-bostiwch eich manylion cyswllt i [email protected]. Byddwn yn rhannu eich manylion cyswllt yn ddiogel gydag Anabledd Dysgu Cymru a fydd yn cysylltu â chi gyda rhagor o wybodaeth.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru ac Anabledd Dysgu Cymru yn ei wneud gyda’r wybodaeth rydym yn ei chasglu yn ein hysbysiadau preifatrwydd yn:

Hysbysiad Preifatrwydd - Iechyd Cyhoeddus Cymru (gig.cymru)

Datganiad Preifatrwydd - Anabledd Dysgu Cymru (ldw.org.uk)

Drwy gymryd rhan, fe allwch chi wneud yn siŵr ein bod yn cyflwyno’r negeseuon priodol yn y ffordd briodol.

Bydd yr arolwg yma’n cau ddydd Gwener 10fed Chwefror 2023

Ar ddiwedd yr arolwg byddwch yn cael cyfeirnod.

Os hoffech chi gael gwared ar eich ymatebion ar unrhyw adeg cyn cyhoeddi’r adroddiad, gallwch chi gysylltu â ni ar [email protected] gyda’r cyfeirnod a byddwn yn dileu eich ymateb.



Civica Logo
Privacy Statement