Fel rhan o'n hymrwymiad i wella ein gwasanaethau'n barhaus, byddem yn gwerthfawrogi eich adborth fel y gallwn weithio tuag at ddiwallu eich anghenion a'ch disgwyliadau.
Hoffai Iechyd Cyhoeddus Cymru glywed eich barn ar eich cyswllt a'ch profiad diweddar gyda'r gwasanaeth Sgrinio Iechyd y Cyhoedd. Ni ddylai’r arolwg gymryd fwy nag ychydig funudau i’w gwblhau. Byddem yn ddiolchgar am eich cefnogaeth. Bydd eich adborth yn ein helpu i nodi arferion da a meysydd i'w gwella a byddwn yn rhannu'r hyn gyda'n staff.
Byddwn yn sicrhau y bydd yr wybodaeth yn ddienw cyn ei rhannu, ac ni fyddwn yn gofyn am eich enw na gwybodaeth bersonol yn y blychau sylwadau. Ni fydd yr wybodaeth a ddarparwch yn effeithio'n negyddol ar y gofal a gewch.
Ni fyddwn yn ymateb yn uniongyrchol i sylwadau na chwynion a adewir ym mlychau sylwadau'r ffurflen adborth. Os hoffech chi godi cwyn, pryder neu adael canmoliaeth, gallwch wneud hynny drwy ymweld â'n tudalennau Eich adborth ar ein gwefan.
Os hoffech gael cymorth i gwblhau'r arolwg neu fersiwn hygyrch arall ohono, cysylltwch â ni drwy anfon e-bost at [email protected]
Tua diwedd yr holiadur, mae ychydig o gwestiynau amdanoch chi'ch hun a fydd yn ein helpu i ddeall profiadau pobl o wahanol gefndiroedd yn well.
Bydd pob holiadur wedi’i gwblhau ynghyd â’r data cysylltiedig yn cael eu cadw yn unol â chanllawiau cyfredol Iechyd Cyhoeddus Cymru. Mae rhagor o wybodaeth am sut mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn prosesu eich data ar gael yma: Hysbysiad preifatrwydd
Rydym wedi ymrwymo i gynnal amgylchedd gwaith diogel a pharchus i'r holl staff. Ni fydd adborth gwahaniaethol, boed yn hiliol, yn rhywiaethol, yn homoffobig, yn anableddol, neu'n gamdriniol fel arall, yn cael ei oddef. Gweithredwn ymagwedd dim goddefgarwch tuag at ymddygiad o'r fath, yn unol â Pholisi Parch a Datrys GIG Cymru a Gweithdrefn Trais ac Ymddygiad Ymosodol GIG Cymru.