Iechyd Cyhoeddus Cymru

Ffurflen Gwyno

Iaith
select

Cydsyniad i gwyno ar ran rhywun arall

At ddibenion bwrw ymlaen â'r gŵyn hon, os ydych chi'n cwyno ar ran rhywun arall bydd angen i ni gael cydsyniad gan yr unigolyn yr effeithir arno gan eich cwyn neu dystiolaeth bod gennych awdurdod i weithredu ar ran rhywun arall.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cwynion nad ydynt yn ymwneud ag Iechyd Cyhoeddus Cymru

Nid yw Iechyd Cyhoeddus Cymru yn gyfrifol am holl ofal a thriniaeth y GIG ledled Cymru.

Mae manylion cyswllt ar gyfer holl fyrddau a sefydliadau iechyd GIG Cymru ar gael ar y dudalen ganlynol:

Cliciwch yma i gael mynediad at fyrddau a sefydliadau iechyd eraill GIG Cymru.

------------------------------------------------------------------------------------------------------------------------

Cwynion yn ymwneud ag Iechyd Cyhoeddus Cymru

Nod Iechyd Cyhoeddus Cymru yw darparu'r gofal a'r gwasanaethau gorau posibl. Rydym yn cydnabod pwysigrwydd croesawu adborth gan y bobl a'r cymunedau rydym yn eu gwasanaethu er mwyn ein galluogi i ddysgu o brofiadau pobl, y da a’r drwg. Ar adegau pan nad yw pethau'n mynd yn ôl y disgwyl, mae angen i ni edrych ar yr hyn aeth o'i le a’r hyn y gallwn ni ei wneud i wella pethau. 
 
Os nad ydych yn fodlon â gwasanaeth a ddarparwyd gan Iechyd Cyhoeddus Cymru, gallwch wneud cwyn drwy lenwi'r ffurflen hon. Drwy ddweud wrthym am eich cwyn, gallwn wrando arnoch chi, gweithredu, ymchwilio, adrodd a dysgu o'ch profiadau er mwyn gwella ein gwasanaethau pan mae angen iddynt fod yn well.

Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae Iechyd Cyhoeddus Cymru yn ei wneud â'r wybodaeth a gasglwn yn ein hysbysiadau preifatrwydd yn:  

Hysbysiad Preifatrwydd Iechyd Cyhoeddus Cymru



Civica Logo
Privacy Statement