Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro

Arolwg Adborth - Gwasanaethau Pediatrig

Iaith
select

Er mwyn gwella’r gwasanaeth a ddarparwn, byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a’r Fro yn ddiolchgar pe gallech gwblhau’r holiadur byr hwn ynglŷn â’n gwasanaethau i fabanod, plant pobl ifanc a’u teuluoedd. Wrth ateb y cwestiynau, dywedwch wrthym beth sydd bwysicaf i chi a sut y gallem wella’r gwasanaethau hyn.

Os nad ydych wedi defnyddio’r gwasanaethau hyn o’r blaen, wrth ateb, meddyliwch am yr hyn y byddech chi’n ei ddisgwyl pe baech yn defnyddio’r gwasanaethau hyn.

Mae’r holiadur hwn yn wirfoddol, bydd yr holl ganlyniadau’n ddienw a dylai gymryd tua 3 munud i’w lenwi. Wrth ateb y cwestiynau, helpwch ni drwy roi eich barn onest a pheidiwch â chynnwys unrhyw beth personol nad ydych yn dymuno iddo gael ei wneud yn gyhoeddus, oherwydd ar brydiau efallai y byddwn yn dymuno rhannu eich adborth yn ddienw. Nid oes angen i ni wybod eich manylion personol ond byddwn yn gofyn rhai cwestiynau cyffredinol am bwy ydych chi yn nes ymlaen yn yr holiadur. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gofyn i bob grŵp o bobl am eu hadborth.

Os ydych chi’n helpu rhywun i gwblhau’r holiadur yma, sicrhewch mai eu barn nhw sy’n cael ei nodi.

Os hoffech chi gymryd rhan yn yr arolwg hwn, cliciwch ar Parhewch i ddechrau.



Civica Logo
Privacy Statement