Er mwyn gwella'r gwasanaeth a ddarparwn, byddai Bwrdd Iechyd Prifysgol Caerdydd a'r Fro a Gofal Canser Macmillan yn ddiolchgar pe gallech gwblhau'r holiadur byr hwn ynghylch y wybodaeth, y cyngor neu'r cymorth rydych wedi'i dderbyn yn ystod eich taith canser.
Hoffem hefyd gael eich adborth ynghylch a ydych chi'n teimlo y byddai datblygu Gwasanaeth Gwella Taith Canser yn ardal Caerdydd a'r Fro yn fuddiol.
Dylai gymryd tua 8 munud i lenwi’r holiadur, mae’n wirfoddol a bydd yr holl ganlyniadau’n ddienw.
Wrth ateb y cwestiynau, helpwch ni drwy roi eich barn onest a pheidiwch â chynnwys unrhyw beth personol nad ydych yn dymuno iddo gael ei wneud yn gyhoeddus, oherwydd ar brydiau efallai y byddwn yn dymuno rhannu eich adborth yn ddienw. Nid oes angen i ni wybod eich manylion personol ond byddwn yn gofyn rhai cwestiynau cyffredinol am bwy ydych chi yn nes ymlaen yn yr holiadur. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gofyn i bob grŵp o bobl am eu profiad.
Os ydych chi’n helpu rhywun i gwblhau’r holiadur yma, sicrhewch mai barn y claf sy’n cael ei nodi.
Diolch ymlaen llaw, rydyn ni’n gwerthfawrogi eich cyfraniad yn fawr.
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr arolwg hwn, cliciwch ar Parhewch i ddechrau.