Beth yw'r cynllun "Llunio Gwasanaethau ar gyfer y Dyfodol, Gyda'n Gilydd"?
Bydd y cynllun hwn yn gweithredu fel map ffordd ar gyfer sut y bydd y bwrdd iechyd yn darparu'r holl wasanaethau am y deng mlynedd nesaf. Bydd y cynllun yn cael ei gydgynhyrchu gyda'n cymunedau lleol, ac yn cael ei adeiladu ar werthoedd cynhwysiant, gonestrwydd a chysondeb.
Bydd y cynllun yn cael ei gynllunio i sicrhau bod pobl yn cael y gofal cywir, yn y lle cywir, ar yr adeg gywir, gan ddefnyddio'r pum pwynt ffocws canlynol:
- Iechyd Meddwl
- Menywod a phobl wedi’u cofrestru’n fenywaidd adeg eu geni
- Gofal Brys ac mewn Argyfwng
- Gofal wedi'i Gynllunio
- Arbenigol a Rhanbarthol
Rydym yn gwybod bod y ffordd y mae pobl yn defnyddio gwasanaethau iechyd yn newid. Mae gennym boblogaeth sy'n heneiddio, ac mae pobl yn ymdrin â chyflyrau iechyd llawer mwy cymhleth. Mae hyn yn golygu bod angen i ni wneud yn siŵr bod ein gwasanaethau yn gallu diwallu anghenion pawb, a'n bod yn gwneud y defnydd gorau o staff, adeiladau a thechnoleg.
Wrth ateb y cwestiynau, helpwch ni drwy roi eich barn onest a pheidiwch â chynnwys unrhyw beth personol nad ydych yn dymuno iddo gael ei wneud yn gyhoeddus, oherwydd ar brydiau efallai y byddwn yn dymuno rhannu eich adborth yn ddienw. Nid oes angen i ni wybod eich manylion personol ond byddwn yn gofyn rhai cwestiynau cyffredinol am bwy ydych chi yn nes ymlaen yn yr holiadur. Mae hyn er mwyn gwneud yn siŵr ein bod yn gofyn i bob grŵp o bobl am eu profiad.
Mae'r arolwg wedi'i gynllunio i chi allu rhoi adborth ar adrannau unigol neu ar sawl adran os ydych chi’n dymuno. Does dim angen i chi gwblhau pob un o'r pum adran oni bai eich bod yn dymuno gwneud.
Os hoffech chi gymryd rhan yn yr arolwg hwn, cliciwch ar Parhewch i ddechrau.